WorryFree Computers   »   [go: up one dir, main page]

Mynd i'r cynnwys

Mae Openverse yn defnyddio dadansoddeg i wella ansawdd ein gwasanaeth. Ewch i y dudalen preifatrwydd i ddysgu mwy neu i beidio â chyfrannu.

Ynghylch Openverse

Teclyn yw Openverse sy'n galluogi pawb i ddarganfod a defnyddio gweithiau trwydded agored a gweithiau parth cyhoeddus.

Mae Openverse yn chwilio ar draws mwy na 700 miliwn o ddelweddau a sain o APIs agored a set ddata Common Crawl. Rydym yn crynhoi gweithiau o gadwrfeydd cyhoeddus lluosog, ac yn hwyluso ailddefnyddio trwy nodweddion fel priodoliad un clic.

Ar hyn o bryd mae Openverse yn chwilio delweddau a sain yn unig, gan chwilio am fideo trwy Ffynonellau Allanol. Rydym yn bwriadu ychwanegu mathau ychwanegol o gyfryngau megis testunau agored a modelau 3D, gyda'r nod yn y pen draw o ddarparu mynediad i'r amcangyfrif o 2.5 biliwn CC trwyddedig a gwaith parth cyhoeddus ar y we. Mae ein holl god yn god agored a gellir ei gyrchu yn Storfa GitHub Openverse. Rydym yn yn croesawu cyfraniad cymunedol. Gallwch weld beth sy'n rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd.

Openverse yw olynydd CC Search a lansiwyd gan Creative Commons yn 2019, ar ôl iddo symud i WordPress yn 2021. Gallwch ddarllen mwy am y trawsnewidiad hwn yng nghyhoeddiadau swyddogol o Creative Commons a WordPress. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n nod o fynd i'r afael â'r gallu i ddarganfod a hygyrchedd cyfryngau mynediad agored.

Nid yw Openverse yn gwirio manylion trwyddedu gweithiau unigol nac a yw'r priodoliad a gynhyrchwyd yn gywir neu'n gyflawn. Gwiriwch yn annibynnol y statws trwyddedu a'r manylion priodoli cyn ailddefnyddio'r cynnwys. Am ragor o fanylion, darllenwch y Amodau Defnyddio Openverse.

Ffynonellau Allanol

Mae Openverse wedi'i adeiladu ar ben catalog sy'n mynegeio cynnwys o dan drwydded CC a chynnwys parth cyhoeddus o ffynonellau dethol. Darllenwch ragor am ein ffynonellau yma.

Fodd bynnag, mae yna lawer o ffynonellau cyfryngau sydd wedi'u trwyddedu gan CC a chyfryngau parth cyhoeddus nad ydym yn gallu eu cynnwys eto o fewn chwilio Openverse. Gall hyn fod oherwydd nad ydyn nhw'n cynnig API cyhoeddus, neu nad yw ein cyfranwyr wedi cael amser eto i'w hintegreiddio i Openverse. Mae'r rhain yn ffynonellau gwerthfawr ac rydym am wneud yn siŵr eich bod yn gallu dod o hyd i'r deunyddiau trwyddedig gorau posibl, waeth ble maen nhw wedi'u lleoli.

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i ffynonellau allanol ar waelod pob tudalen canlyniadau chwilio Openverse; ar dudalennau ar gyfer chwilio sydd ddim yn dod â chanlyniadau; ac ar dudalennau ar gyfer mathau o gyfryngau nad ydym yn eu cynnal eto ond â'r bwriad o wneud hynny.

Mae'r swyddogaeth hon hefyd yn ein galluogi i ddechrau sgyrsiau a meithrin perthynas â ffynonellau a allai fod yn dymuno cael eu cynnwys yn Openverse yn y dyfodol. Yn olaf, gallwn hefyd gynnig ffynonellau allanol o fathau o gyfryngau nad ydym yn eu cynnwys yn Openverse eto, ond â'r bwriad o wneud.

Ga i awgrymu ffynonellau allanol newydd?

Cewch wir! Crëwch mater yn ein storfan GitHub neu anfonwch e-bost atom a dywedwch wrthym am y ffynonellau newydd yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys.

Pam wnaethoch chi adeiladu hwn?

Ers blynyddoedd lawer, mae Creative Commons wedi cynnig porth chwilio pwrpasol i'w ddefnyddwyr ar gyfer chwilio llwyfannau sydd â hidlau trwyddedu CC wedi'u hymgorffori ynddyn nhw. Mae hyn yn dal i gael ei gynnal yn oldsearch.creativecommons.org.

I ddefnyddwyr y safle CC Meta Search etifeddol, bydd y nodwedd "Ffynonellau Allanol" ar Openverse yn edrych yn gyfarwydd. Y nod oedd sicrhau nad yw'r swyddogaeth yn cael ei cholli, ond ei bod yn cael ei diweddaru a'i hymgorffori yn ein peiriant chwilio newydd ar gyfer cynnwys trwyddedig agored. Yn ogystal, mae'r nodwedd "Ffynonellau Allanol" yn adeiladu ar y swyddogaeth hon, gan ganiatáu inni ychwanegu ffynonellau allanol newydd yn gyflym wrth i ni eu darganfod, a chefnogi mathau newydd o gynnwys yn y dyfodol.

Gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau, ac os oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwella, gadewch adborth i ni.

Yn rhan o broject