Mae Openverse yn defnyddio dadansoddeg i wella ansawdd ein gwasanaeth. Ewch i y dudalen preifatrwydd i ddysgu mwy neu i beidio â chyfrannu.
Ffynonellau
O ble ddaw cynnwys Openverse?
Mae cynnwys o dan drwydded agored yn cael eu lletya ar filiynau o barthau ar draws y rhyngrwyd. Mae ein tîm yn nodi'n systematig y darparwyr sy'n cynnal cynnwys sydd o dan drwydded CC. Os yw'n addas, rydyn ni'n mynegeio'r cynnwys hwnnw ac yn ei wneud yn hawdd ei ddarganfod trwy Openverse .
Mae gan rai darparwyr nifer o wahanol grwpiau o gynnwys ynddyn nhw. Mae gan Flickr ffynonellau sy'n amrywio o NASA i ffotograffiaeth bersonol. Mae'r Smithsonian Institute yn cynnwys dwsin o gasgliadau amrywiol.Mae Wikimedia Commons yn eang iawn o ran cynnwys, ac yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Orielau, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd i amlygu rhai neu'r cyfan o'u casgliadau digidol.
Mae Openverse yn arbennig o ddiolchgar am waith Europeana, sefydliad sy'n gweithio i ddigideiddio a gwneud gweithiau treftadaeth ddiwylliannol y gellir eu darganfod ledled Ewrop. Mae Openverse yn gallu mynegeio cannoedd o ffynonellau gwerthfawr trwy un integreiddiad gyda'r Europeana API .
Sut mae penderfynu pa ffynonellau i'w hychwanegu nesaf?
Mae gennym restr ddiddiwedd o ffynonellau posibl i ymchwilio iddynt cyn eu hintegreiddio. Rydym yn gofyn cwestiynau fel:
Beth yw effaith neu bwysigrwydd y ffynhonnell hon i'n defnyddwyr? Os yw'n bodoli o fewn darparwr fel Wikimedia Commons, a yw'n werthfawr i'n defnyddwyr allu hidlo yn ôl y ffynhonnell hon yn uniongyrchol?
A yw manylion trwyddedu a phriodoli wedi'i harddangos yn glir i alluogi ailddefnyddio hyderus?
Faint o eitemau newydd neu fathau newydd o eitemau y gallwn ni ddod â nhw i'n defnyddwyr trwy'r integreiddio hwn? Mae rhai ffynonellau yn integreiddiadau uniongyrchol, tra gall eraill fod yn ffynhonnell o fewn ffynhonnell.
Rydym yn gwerthfawrogi awgrymiadau am ffynonellau newydd gan ein cymuned o ddefnyddwyr.